Mae Parc Geneteg Cymru yn trefnu Arddangosfa Genomeg newydd a chyffrous mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Bydd y digwyddiad yn arddangos genomeg a’i photensial i wella gofal iechyd i bobl Cymru.
Gwybodaeth am y digwyddiad
• Digwyddiad rhithwir am ddim
• Dydd Gwener 14 Mai 10yb -7yp
Mae’r arddangosfa’n argoeli’n ddiwrnod cyffrous o weithgareddau rhyngweithiol. Caiff bawb sy’n bresennol fynediad at:
• Gyfres o sgyrsiau drwy gydol y dydd
• Caffi Genomeg
• Ardal arddangos gyda stondinau gan wahanol grwpiau cleifion, elusennau ac ati ar gael drwy’r dydd
• Ardal ‘Clipiau Byr’ – ffilmiau/animeiddiadau byr ar wahanol bynciau geneteg/genomeg a gaiff eu dangos drwy’r dydd
• Sgyrsiau gan randdeiliaid allweddol ac amryw o sefydliadau eraill
• Helfa Trysor Genomeg
• Echdynnu DNA
• Gwybodaeth gyrfaoedd genomeg
• Gweithgareddau rhyngweithiol a mwy
Caiff Gweithwyr Iechyd Proffesiynol ac Ymchwilwyr sâl fynediad i ardal gyfyngedig, sy’n hygyrch drwy wahoddiad yn unig ac sy’n cynnwys cyflwyniadau, sgyrsiau, Neuadd Bosteri ac ardal arddangos lle bydd gan gwmnïau stondinau rhithwir, sydd ar gael drwy’r dydd.
I gofrestru neu ddysgu mwy ewch i Dudalen yr Arddangosfa Genomeg.