Syndromau Paraganglioma Etifeddol a Diwrnod Astudio Rhithwir Rheolaeth Glinigol

Ymunwch â ni ar gyfer sgyrsiau gan arbenigwyr ledled y DU a gweithdai i ddysgu, rhannu profiadau, ac archwilio sut y gellir gwella’r gwasanaethau a ddarperir.
Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
Mae syndromau paraganglioma etifeddol yn anhwylderau cymhleth ac yn fwy cyffredin nag a dybiwyd o’r blaen. Mae ein dealltwriaeth o’r anhwylderau hyn wedi cynyddu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf; fodd bynnag, gall diagnosis, triniaeth a rheolaeth barhau i fod yn heriol, i’r cleifion a’u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Yn y bore, bydd y diwrnod astudio yn cynnwys trafodaethau gan arbenigwyr ledled y DU i roi trosolwg o gyflyrau SDHx, eu diagnosis a’u sgrinio. Yn y prynhawn, canolbwyntir ar y profiad yng Nghymru, gan gynnwys rhai gweithdai i ddod â gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ddysgu, rhannu profiadau, ac archwilio sut gellid gwella’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y grŵp hwn o gleifion.
Bydd y digwyddiad yn agored i aelodau a hyfforddeion o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n awyddus i ddysgu mwy am syndromau paraganglioma etifeddol, fel endocrinolegwyr, llawfeddygon y pen a’r gwddf a’r chwarren endocrinaidd, endocrinolegwyr pediatrig, radiolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, cwnselwyr genetig, a genetegwyr clinigol, i enwi ond rhai.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae cofrestru’n hanfodol oherwydd gallai lleoedd fod yn brin.
Bydd rhagor o wybodaeth a’r rhaglen yn cael eu hanfon maes o law.