A ydych wedi eich effeithio gan gyflwr prin neu enetig? Hoffech chi gael gwybod rhagor am iechyd a genomeg? Ymunwch â ni ar gyfer Caffi Genomeg!
Parc Genynnau Cymru a Chynghrair Geneteg y DU sy’n cynnal y fenter hon ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Bydd pob Caffi yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd ag eraill a chael gwybod am ddatblygiadau newydd ym maes meddygaeth genomeg yng Nghymru.
Bydd hefyd yn gyfle i bobl ddod ynghyd a rhoi gwybod i ni sut gallwn ni roi gwell cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin neu enetig.
Yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, bydd y Caffi yn croesawu siaradwyr gwadd, yn amlygu mentrau newydd ac yn rhoi cyfleoedd i lywio ein gweithgareddau yn y maes hwn.
Cynhelir sawl caffi trwy gydol y flwyddyn. Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ddigwyddiadau.