Tremolo – drama bodlediad gan Lisa Parry

Drama bodlediad yw Tremolo, a lansiwyd ar 3 Mawrth, wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Lisa Parry (Cyd-gyfarwyddwr Theatr Illumine), mae’r podlediad pwerus hwn yn rhoi mewnwelediad i’r cwestiwn a ddylid cael profion genetig ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis a allai fod yn cuddio yn eu genynnau.

Cyflwynir Tremolo drwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio drwy Ewrop ar y trên gyda’i ffrind, yna mynd i’r Brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn niwrolawfeddyg. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd yn troi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Clefyd Alzheimer etifeddol sy’n dechrau’n gynnar. O ganlyniad i eneteg, mae siawns o 50% y bydd ef a Gwenllian, ei chwaer iau, hefyd yn dioddef o’r cyflwr yn y dyfodol. Wrth i’r ddrama ddatblygu, dysgwn am arwyddion cynnar y cyflwr. Drwy lygaid Harri cawn wybod hefyd am yr effaith ar gydberthnasau teuluol, pwysau ariannol, bywyd bob dydd, a gobeithion am y dyfodol.

Mae Tremolo wedi ei anelu’n bennaf at gynulleidfaoedd ifanc 16+ oed, ond mae hefyd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael i wrando arnynt a’u lawrlwytho drwy blatfformau yn cynnwys Spotify, Apple Podcasts, AM ac ar wefan y Theatr Genedlaethol. Bydd y gyfres o bodlediadau hefyd yn cynnwys penodau gan dîm creadigol y ddrama yn trafod themâu’r ddrama, yn ogystal â chyfraniadau gan arbenigwyr geneteg.

Yn ogystal, i gyd-fynd â’r ddrama, ceir pecyn addysgol ar gyfer ysgolion a cholegau wedi’i anelu at fyfyrwyr blwyddyn 12/13 sy’n llawn cynnwys creadigol a gwyddonol. Gall athrawon/addysgwyr gael copi o’r pecyn drwy e-bostio walesgenepark@caerdydd.ac.uk.

Mae Tremolo yn gynhyrchiad gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Perfformiad gan Gareth Elis. Drama wedi’i hysgrifennu gan Lisa Parry, ei chyfarwyddo gan Zoë Waterman, cerddoriaeth y delyn wedi’i chyfansoddi a’i chwarae gan Eira Lynn Jones, dylunio sain a golygu gan Rhys Young, cyfarwyddo cynorthwyol gan Branwen Davies, cerddoriaeth ychwanegol gan Yws Gwynedd. Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios, Caerdydd.

Hoffai Parc Geneteg Cymru hefyd ddiolch i Dr Alexandra Murray, Donna Duffin a Rachel Irving o Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan am eu cyfraniad a’u cymorth gyda’r prosiect hwn.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.