Wrth i ni ddechrau cyfri’r dyddiau tan y Nadolig, bydd tîm GPW unwaith eto’n lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl trwy werthu pwdinau Nadolig – mae galw mawr amdanynt!
Mae’r Ultimate Plum Christmas Pudding, ffefryn traddodiadol y Nadolig, yn siwr o blesio, neu i chi sydd â dant melys, rhowch gynnig ar yr Ultimate Sticky Toffee Pudding, os yw hynny’n well gennych.
Bydd yr holl elw sy’n deillio o werthu ein pwdinau eleni yn cyfrannu at ein hymdrechion i godi arian ar gyfer yr ail Ginio Genomeg blynyddol.
I archebu, anfonwch e-bost at partneriaethgenomegcymru@wales.nhs.uk.