Mae ceisiadau bellach ar agor i’r rheiny sy’n dymuno bod yn Hyrwyddwyr Genomeg. Mae hon yn rôl newydd a chyffrous sydd wedi’i hanelu at wella ymwybyddiaeth o genomeg drwy gydol y gweithlu.
Bydd Hyrwyddwyr Genomeg yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth, lledaenu gwybodaeth a helpu i gymathu genomeg ym mhrif ffrwd gofal eu hardaloedd nhw. Mae’r Bartneriaeth yn chwilio am gylch amryfal o broffesiynolion gofal iechyd a hoffai fod yn rhan o chwyldro genomeg ar draws pob maes, bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Rydyn ni’n disgwyl mai ar gyfer 12 mis y bydd y penodiad hwn i ddechrau.
Ydych chi’n angerddol dros bŵer Genomeg i chwyldroi triniaeth wedi’i phersonoli ar gyfer cleifion yng Nghymru?
Ydych chi’n gallu rhannu a chyfleu eich gwybodaeth mewn ffordd glir a hygyrch?
Os felly, beth am fod yn Hyrwyddwr Genomeg! Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr mewn genomeg i fod yn hyrwyddwr – y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynegi eich diddordeb trwy anfon datganiad personol (dim mwy na 500 gair) a llythyr ategol gan eich rheolwr llinell yn nodi pam rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n Hyrwyddwr Genomeg da, at Rebecca Hopes, Arweinydd Hyfforddiant ac Addysg Genomeg (Rebecca.Hopes@wales.nhs.uk). Yna bydd galwad ffôn anffurfiol yn cael ei drefnu.
A chithau’n Hyrwyddwr Genomeg, bydd gofyn ichi:
- Gymryd rhan mewn rhaglen ymsefydlu, mynychu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn a chyfrannu trwy gynadledda fideo bob mis (cyfwerth â phum diwrnod y flwyddyn o dan nawdd eich Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd)
- Codi ymwybyddiaeth o faes genomeg ymhlith eich cydweithwyr yn eich lleoliad clinigol a meithrin cysylltiadau ag amryw adrannau
- Bod yn ddolen gyswllt i bawb sy’n ymholi am y pwnc yn eich bro
- Lledaenu gwybodaeth am enomeg ymhlith eich cydweithwyr pan ddaw ar gael
- Nodi bylchau lle y bydd angen cynnig hyfforddiant genomeg – naill ai’n gyffredinol neu’n benodol – i faes clinigol
- Rhannu gwybodaeth am enomeg gyda staff i’w helpu i ddeall beth yw genomeg a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw, o ran eu cleifion
- Helpu i lunio pecynnau cymorth a deunydd addysgol am y pwnc ledled sawl llwyfan i ddiwallu anghenion y gweithlu ehangach
- Cyfrannu at waith cylch llywio Hyrwyddwyr Genomeg
Bydd Hyrwyddwr Genomeg yn:
- Arwain trwy esiampl ac yn helpu cydweithwyr
- Cyfathrebu’n effeithiol yn ei fro ac ar draws y sefydliad
- Ceisio a chasglu adborth cydweithwyr i’w drafod yn ehangach
- Canmol a hybu genomeg er lles cleifion
- Creu ffyrdd arloesol o gymathu syniadau newydd ym mhrif ffrwd y gofal beunyddiol
- Ymaddasu ar fyr rybudd ac yn amlygu hyblygrwydd
- Dylanwadu ar addysg a gwaith genomeg yn ei fro
Gallwn gynnig:
- Rhaglen ymsefydlu gyflawn
- Sesiynau DPP yn rheolaidd
- Rhwydwaith cefnogol o Hyrwyddwyr Genomeg eraill a staff y bartneriaeth
- Mentor i bob Hyrwyddwr
- Cyfle i gymryd rhan yng ngwaith ehangach y Strategaeth Genomeg
- Bathodyn Hyrwyddwr Genomeg
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Rhagfyr 2019.