Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Genomeg yng Nghymru

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer achos busnes i ddatblygu cyfleuster genomeg o’r radd flaenaf gwerth £15.3M ar safle yng ngogledd Caerdydd.
Mae’r penderfyniad pwysig hwn yn cefnogi ymrwymiad Cymru i fuddsoddi mewn ecosystem fywiog o ymchwil feddygaeth fanwl, arloesi a datblygu gwasanaethau cenedlaethol ac mae’n cyflawni amcan buddsoddi allweddol a nodir yn Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru.
Ategwyd gweledigaeth Partneriaeth Genomeg Cymru “gweithio gyda’n gilydd i harneisio potensial genomeg i wella iechyd, cyfoeth a ffyniant pobl Cymru“ ers tro gan yr ymrwymiad i gydleoli tri sefydliad partner allweddol; Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan; Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru a Pharc Genynnau Cymru, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. Mae’r model blaengar hwn yn golygu mai Cymru yw’r Wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i sicrhau y gall genomeg elwa o integreiddio gwirioneddol; rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd – i sicrhau bod darpariaeth iechyd ac ymchwil genomeg Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi Cymru i ddenu a chadw’r meddyliau gorau ac i adeiladu seilwaith gwirioneddol wydn a fydd yn cefnogi’r datblygiad cyflym a ragwelir ym maes meddygaeth fanwl yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r datblygiad newydd sy’n gweld adnewyddu adeilad sy’n bod yn barod ym Mharc Gwyddorau Bywyd Caerdydd (Coryton, Caerdydd), wedi’i gyd-gynllunio gan aelodau o staff, cleifion a’r cyhoedd a bydd yn darparu: amgylchedd tawel a chroesawgar i gleifion a’u teuluoedd, labordai rheoli microbiolegol ac ymchwil o’r radd flaenaf, gofod clinigol ar ffurf ystafelloedd ymgynghori, cyfleusterau seminar, gofod swyddfeydd modern ac ardaloedd sy’n hyrwyddo llesiant staff.
Bydd y cyfleuster newydd yn gonglfaen i uchelgais meddygaeth fanwl Cymru, gan sefydlu Cardiff Edge fel amgylchedd cydgynhyrchiol rhwng Diwydiant ac Academia a chyda’r GIG yn ganolbwynt iddo. Bydd hyn yn galluogi canfod clefydau’n gynharach, atal salwch, ymestyn annibyniaeth a gwella mynediad i dreialon clinigol i bobl yng Nghymru. Bydd hefyd yn dod â budd economaidd i boblogaeth Cymru drwy fuddsoddiad a chreu swyddi.
Uchelgais a phenderfyniad y gymuned genomeg yng Nghymru i wneud rhywbeth gwahanol, beiddgar a chyffrous gyda’i gilydd er budd Cymru, yw’r hyn a fydd yn parhau i greu cyfle, galluogi cydweithio cyffrous a sbarduno llwyddiant yn yr amgylchedd hwn sy’n datblygu’n gyflym.
Dwedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Bydd y £15.3m newydd a fuddsoddir yn helpu i gefnogi ffocws cenedlaethol ar wasanaethau newydd, astudiaethau ymchwil newydd a mwy o ryngweithio mewn partneriaeth.
Mae Cymru wedi sefydlu ei hun ar flaen y gad o ran gwasanaethau ac ymchwil genomeg ac fel llywodraeth rydym yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwella canlyniadau iechyd, gan gynnwys datblygu profion genetig newydd ar gyfer gwasanaethau canser, Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru yn ogystal â’r gwasanaeth SARS-CoV-2 sy’n arwain y byd.
Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn adeiladu’n sicr ar y gwaith hwn drwy gydleoli disgyblaethau genomeg ar y safle newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth hon yn ei chyflawni yn y dyfodol.”
Dywedodd Len Richards, cyn-Brif Weithredwr Caerdydd a’r Fro ac Uwch Swyddog Cyfrifol GPW*:
“Y weledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol yw i Gymru gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel man o bwys ar gyfer meddygaeth fanwl. Drwy greu amgylchedd lle gall ystod o arbenigedd genomeg gydweithio’n rhydd, lle caiff y gweithlu ei feithrin, a lle rhoddir y flaenoriaeth i fuddsoddi mewn ymchwil drosi a thechnoleg newydd, dim ond elwa y gall Cymru o’r potensial ar gyfer datblygiad economaidd ac yn bwysicaf oll, gwasanaethau genomeg o’r radd flaenaf i’n poblogaeth.”
Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Mae gweithio gyda chymaint o bobl ymroddedig o bob rhan o’r Bartneriaeth wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r datblygiad hwn, sydd wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd, nid yn unig yn cynnig y cyfle i integreiddio arbenigedd genomeg yn wirioneddol ar draws sawl sefydliad, ond hefyd yn sicrhau gallu hanfodol i dyfu a datblygu’r maes gofal iechyd cyffrous hwn”.
*I nodi, Stuart Walker, Prif Weithredwr dros dro BIP Caerdydd a’r Fro, sy’n cyflawni rôl y Prif Swyddog Cyfrifol ar sail interim