Diwrnod Clefydau Prin 2022: Adolygiad

Mae Diwrnod Clefydau Prin yn fenter sy’n cael ei chydlynu’n fyd-eang ac sy’n cael ei harwain gan gleifion sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r 300 miliwn o bobl ledled y byd sy’n byw gyda chlefydau prin, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r mudiad yn gweithio tuag at sicrhau tegwch o ran gofal iechyd, cyfleoedd cymdeithasol a thriniaeth a therapïau i’r rheiny yn y gymuned.  

Ar 28 Chwefror, cynhaliwyd digwyddiadau mewn dros 100 o wledydd ledled y byd i nodi’r diwrnod, a oedd yn cynnwys goleuo adeiladau, digwyddiadau codi arian, digwyddiadau chwaraeon, cynadleddau gwyddonol, arddangosfeydd celf a llawer mwy. I nodi’r diwrnod ein hunain, clywodd Partneriaeth Genomeg Cymru gan un o’r Aelodau o’n Bwrdd Seinio, Louise, am sut mae clefyd prin wedi effeithio ar ei theulu.  

Yn 2019, cafodd mab Louise, Dafydd, ddiagnosis o Ddystonia Ymatebol Dopa, cyflwr prin iawn sy’n effeithio ar tua un o bob miliwn o bobl ledled y byd. Mae cyflwr Dafydd yn golygu nad yw ei gyhyrau’n derbyn y signalau cywir o’i ymennydd. Mae hyn yn arwain at oedi wrth ddatblygu rhai o’i sgiliau allweddol gan gynnwys cerdded, bwyta ac yfed. I Louise a’i theulu, mae hyn wedi golygu rhai addasiadau mawr; Rhoddodd gŵr Louise y gorau i weithio i ofalu am Dafydd yn llawn amser, ac mae’r ddau ohonynt wedi gorfod dod yn arbenigwyr ar gyflwr nad oeddent yn gwybod unrhyw beth amdano o’r blaen.  

Mae’r teulu wedi dod o hyd i gymuned gymorth ar-lein drwy Facebook, lle mae wedi gallu cysylltu â rhieni y mae gan eu plant y cyflwr hefyd, yn ogystal ag oedolion sy’n byw gyda’r cyflwr eu hunain.  Mae’r grŵp wedi taflu goleuni ar y ffyrdd gwahanol y gall y cyflwr amlygu ei hun mewn unigolion ac wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i Louise a’i theulu nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn eu profiad o glefyd prin a’r heriau a ddaw yn sgil hyn.  

Gallwch wylio’r fideo yma ac i gael mwy o wybodaeth am Glefydau Prin cliciwch yma  

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.