Dathlu Arwyr Tawel: Sbotolau ar Uned Genomeg Pathogen (PenGU)
Drwy gydol yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae un o’n partneriaid allweddol yn GPW wedi bod yn gweithio’n ddiflino i’n cadw ni i gyd yn ddiogel. Mae’r Uned Genomeg Pathogen wedi bod ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws ac yn parhau i weithio dan bwysau aruthrol i’n helpu i aros ar y blaen i amrywiolion newydd wrth iddynt esblygu.
Tîm IP5 PenGU
Georgia Pugh, Jessica Powell a Tara Annette.
Ymunodd y tîm o dri â ni ym mis Chwefror 2021 i weithredu Labordy Ymchwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru IP5 sydd wedi’i leoli wrth ymyl Labordy Lighthouse Cymru. Cylch gorchwyl y tîm oedd dewis y samplau Piler 2 gorau o’r platiau echdynnu a dderbyniwyd ar gyfer labordy Lighthouse.
Daw’r tîm o gefndiroedd amrywiol, ond does dim un â chefndir Labordy Diagnostig felly roedden nhw’n ddibrofiad ac yn gorfod dysgu mewn amgylchedd dan bwysau mawr. Aethon nhw ati ar unwaith, ac mae eu proffesiynoldeb, ansawdd eu gwaith a’u cywirdeb wedi bod yn rhagorol.
Cyn i’r tîm ddechrau, y gyfradd dilyniannu ar gyfer samplau Piler 2 Cymru oedd rhwng 0.3% a 5%, ond ar ôl iddyn nhw fwrw iddi fe neidiodd i 20.5% ac ar ôl iddyn nhw gael eu traed danynt, cyrhaeddodd 40%. Gan nad ydyn ni’n gallu gwahaniaethu rhwng samplau Cymru a gweddill y DU wrth ddethol, maen nhw wedi bod yn helpu gyda dilyniannu samplau Piler 2 ar draws y DU yn gyffredinol.
Gyda’u help nhw mae PenGU wedi dilyniannu 14% o samplau Piler 2 Cymru ers dechrau Pandemig COVID.
Tîm Labordy Gwlyb PenGU
Bree Gatica-Wilcox, Sara Summerhayes, Alec Birchley, Lee Graham, Jason Coombs, Sarah Taylor, Harry Williams, Jessica Hey, Alexander Adams
Ar anterth Pandemig 2020 roedd y tîm hwn yn dilyniannu 6,000 o brofion COVID Positif yr wythnos â llaw, gan nad oedd awtomeiddio’n ddigon cyflym i gael amseroedd derbyniol ar gyfer olrhain Valiant. Nid yn unig y cyflawnwyd hyn, ond hefyd cyflawnon nhw’r gwasanaethau arferol, Ymwrthedd HIV, Nodweddu Meicobacteria ac Ymwrthedd TB, Nodweddu Clostridium difficile a Nodweddu Bacteria Ymwrthedd i Wrthfiotigau gan fodloni’r amseroedd prosesu.
Ac fel pe na bai hynny’n ddigon, parhaon nhw i ddysgu technegau newydd (oedd yn ofynnol ar gyfer cynyddu graddfa dilyniannu COVID) a chael ail ymweliad achrediad ISO 15189 ar gyfer Ymwrthedd HIV a Nodweddu Meicobacteria ac Ymwrthedd TB ac estyniad i gwmpas Nodweddu Clostridium difficile gan gadw’r achrediad ar gyfer y cyntaf a sicrhau achrediad ar gyfer yr olaf.
Mae’r tîm hwn yn wirioneddol ryfeddol ac yn glod i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Uned Genomeg Pathogenau. Maen nhw bellach yn dilyniannu 7000 o brofion COVID Positif bob mis. Bu angen peth cymorth ychwanegol ar PenGU ond mae’r tîm yn dal i wynebu’r her gan gynnwys achrediad ISO ar gyfer Nodweddu COVID a galw Amrywiadau.
Unigolyn Nodedig
Jason Coombs
Aelod o dîm labordy gwlyb PenGU oedd eisoes dan bwysau gyda’i lwyth gwaith; llwyddodd i reoli a jyglo ymweithredyddion i sicrhau bod yr holl wasanaethau dilyniannu yn parhau’n ddi-dor yn ystod pandemig COVID. Roedd yn ymateb i’r newidiadau niferus, a bu hefyd yn gweithio oriau lawer o oramser a thros benwythnosau i sicrhau bod llong PenGU yn dal i hwylio.
Tîm Labordy Sych PenGU
Matt Bull, Sara Rey, Nicole Pacchiarini, Amy Gaskin a Catryn Williams
Bu’r tîm o Fiowybodegwyr yn gweithio ar yr un cyflymder a’r tîm labordy gwlyb; yn prosesu’r holl waith/data a gynhyrchwyd drwy ddilyniannu ar gyfer gwasanaethau oedd eisoes yn bodoli a COVID.
Ar ben hyn roedden nhw’n datblygu piblinellau ar gyfer COVID wrth fynd ymlaen. Roedd galw cyson amdanynt gan Lywodraeth Cymru, gydag Epidemiolegwyr a CDSC yn mynychu llawer o gyfarfodydd i sicrhau bod yr holl bobl berthnasol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y data a’r hyn roedd yn ei olygu. Fel y gwyddom, dyma’r Epidemig cyntaf lle mae dilyniannu wedi’i ddefnyddio o ddifrif felly roedd hwn yn addysg i lawer o bobl.
Lluniodd y Biowybodegwyr adroddiadau ar gyfer achosion ac olrhain achosion, gwasanaeth yr oedd galw mawr amdano a gwasanaeth amhrisiadwy i’r Epidemiolegwyr. Roedden nhw hefyd yn allweddol wrth ddarparu data a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dogfen y Cyfnod Atal Byr, oedd yn atal teithio i Gymru er mwyn helpu i leihau baich COVID drwy gyflwyniadau cynyddol.
