Dan y chwyddwydr: Bwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW)

Dan y chwyddwydr: Bwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW)
Yn gynharach eleni, croesawyd 8 aelod newydd i ymuno â Bwrdd Seinio GPW yn dilyn ein hymgyrch recriwtio ddiweddaraf ar gyfer aelodau newydd.
Mae ein bwrdd seinio, sy’n rhan o’n hymrwymiad i gynnwys Cleifion a’r Cyhoedd, wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda chleifion ac aelodau o’r cyhoedd i helpu i egluro pethau mewn ffordd glir a syml, gan rymuso dinasyddion Cymru i ddeall mwy am yr hyn y gall genomeg ei olygu iddyn nhw.
Wrth ddewis yr aelodau, rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod lleisiau’r rheiny y mae genomeg yn effeithio arnyn nhw yn cael eu cynrychioli’n dda a bod gan bob aelod y grym i gyfrannu at y polisïau sy’n llywio’r broses o weithredu’r strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am aelodau ein bwrdd seinio drwy fynd i dudalennau ‘Cwrdd â’n Bwrdd Seinio’ ar ein gwefan.