Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru: Mapio ein Dyfodol

Mae lansio Genome UK: the future of healthcare (Llywodraeth EM, 2020) gan Lywodraeth y DU ym mis Medi 2020, wedi rhoi ffocws pendant ar genomeg a chyfranogiad a chyfraniad holl wledydd y DU o ran ei gweithredu.  

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Cymru wedi cael adolygiad mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid wrth i’r rhaglen agosáu at ddiwedd ei chylch ariannu 5 mlynedd cychwynnol.  Y cam nesaf yw datblygu Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru, gan alinio ein rhaglen â’r uchelgeisiau a amlinellir yn Genome UK.  O gleifion a’r cyhoedd hyd at ymgynghoriadau’r GIG, y byd academaidd a diwydiannol, rydym yn cyd-gynhyrchu cynllun cyflawni a fydd yn parhau â safle Cymru yn y DU ac yn rhyngwladol fel arweinydd yn y maes genomeg.   

Mae gan Gymru gryfderau mewn sawl disgyblaeth glinigol-academaidd; datblygu ymchwil arweiniol ym maes geneteg clefydau Alzheimer, Parkinson a Huntingdon, sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac iselder, ynghyd â chryfderau mewn genomeg pathogen, genomeg swyddogaethol, ffarmagenomeg a chanser.  Yn ogystal â hyn, mae Cymru’n cystadlu’n glinigol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda lansiad sgrinio DPYD i helpu i roi fluoropyrimidine yn ddiogel, Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru a phroffilio genomeg samplau Coronafeirws i lywio arolygu iechyd ledled Cymru ac yn fyd eang.  Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru yn ddiweddar:  

Mae’r DU ar flaen y gad yn y chwyldro genomeg ac mae’n gwbl briodol i ni fod yn gweithio gyda llywodraethau eraill ledled y DU i gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd.  Rydym eisoes yn gweithio ar ein cynllun cyflawni genomeg ein hunain drwy Bartneriaeth Genomeg Cymru… i rannu ein harbenigedd a’n hymchwil er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion ledled Cymru a gweddill y DU [ffynhonnell]  

Mae Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a chaiff ei gyhoeddi yn haf 2022.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.