Cynhaliwyd Caffi Genomeg i Bobl Ifanc cyntaf 2022 yn gynharach y mis hwn. Cynhelir y caffis, ffordd anffurfiol o ddysgu mwy am enomeg, meddygaeth ac iechyd, ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru fel rhan o’u gweithgareddau ymgysylltu ynghylch Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017.
Wedi’i anelu at unigolion rhwng 16 a 25 oed, cynhelir y Caffis i Bobl Ifanc deirgwaith y flwyddyn, sy’n cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd megis gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb anffurfiol.
Roedd caffi mis Mawrth yn cynnwys cyflwyniadau ar Stori Dylwyth Teg Genomeg – y portread ohoni yn y cyfryngau (Rhys Vaughan, Parc Geneteg Cymru), Esboniad cerddorol o epigeneteg (Dr Karen Reed, Parc Geneteg Cymru), a Sut ddylai geneteg a genomeg lunio drama (Lisa Parry, Dramodydd a Chyd-gyfarwyddwr Theatr Illumine). Siaradodd Lisa hefyd am lansiad ei drama bodlediad newydd Tremolo, sy’n archwilio effaith diagnosis o Glefyd Alzheimer etifeddol sy’n dechrau’n gynnar (eFAD) o safbwynt bachgen yn ei arddegau.
Cafodd y caffi ymateb da gan y mynychwyr ac roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn, gan gynnwys y sylwadau canlynol:
· Diolch yn fawr iawn, sesiwn wych fel bob amser. Wedi mwynhau’r gymysgedd o greadigrwydd a gwyddoniaeth
· Diolch yn fawr, roedd y siaradwyr i gyd mor ddiddorol, a byddaf yn bendant yn gwrando ar y ddrama sain
· Diolch i bawb, roedd hwn yn hynod ddiddorol ac yn agoriad llygad!
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at y Caffi Genomeg i Bobl Ifanc nesaf, a gynhelir ar ddechrau’r haf (cadwch lygad am y dyddiad ar wefan Parc Geneteg Cymru a GPW, a sianeli cyfryngau cymdeithasol). Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cyflwyniad byr sy’n addas i’r cyhoedd yn un o’r caffis, e-bostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk