Gall cliwiau clinigol awgrymu bod teulu wedi etifeddu rhagdueddiad i glefyd cyffredin, neu fod elfen enetig gref i gyflwr.
- Rhai pethau i’w hystyried:
Sawl unigolyn sy’n perthyn yn agos gyda’r un cyflwr, yn enwedig os yw’r cyflwr yn brin.
- Anhwylderau sy’n digwydd yn gynt nag arfer (yn enwedig os yw’n dechrau’n gynnar mewn sawl aelod o’r teulu). Mae enghreifftiau’n cynnwys:
• Canser y fron <45-50 oed (cyn atal-mislifol)
• Canser y coluddyn <45-50 oed
• Canser y prostad <50-60 oed
• Colli golwg <50-60 oed
• Dementia <60 oed
• Cataractau sy’n dechrau’n gynnar
• Byddardod (cynhenid neu blant)
• Dallineb (cynhenid neu blant)
- Marwolaethau cardiaidd sydyn mewn pobl oedd yn ymddangos yn iach
- Unigolyn neu bâr sydd wedi dioddef tri neu fwy o golledion beichiogrwydd (e.e. colli plentyn, genedigaeth farw)
- Problemau meddygol ym mhlant rhieni sy’n perthyn drwy waed
- Sawl anomaledd cynhenid neu nodweddion dysmorffig, yn enwedig os ydynt yn gysylltiedig ag oedi datblygiadol.
Mae rhwydwaith o wasanaethau genetig arbenigol ar gael i helpu rhoi cymorth a chyngor; cysylltwch â Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan