Deuce: drama bodlediad ddwyieithog newydd gan ddyfeiswyr Tremolo

Wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru a Pharc Geneteg Cymru, mae Deuce yn ddrama bodlediad a ysgrifennwyd gan y dramodydd o Gaerdydd, Lisa Parry a’i chyfarwyddo gan Zoë Waterman, sy’n archwilio cardiomyopathi hypertroffig (HCM). Wedi ei chyfieithu gan Branwen Davies, bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg ar gael i’w ffrydio am ddim, er mwyn sicrhau y gall ystod eang o wrandawyr gael profiad o’r cynhyrchiad pwerus hwn sy’n procio’r meddwl.
Mae’r podlediad hanner awr o hyd yn adrodd hanes Alys, chwaraewr tenis yn ei harddegau sy’n llewygu yn ystod rownd derfynol Pencampwriaeth Iau y Merched yn Wimbledon. Wrth i swyddogion cymorth cyntaf sylweddoli ei bod hi’n profi ataliad ar y galon, mae hi’n cael ei rhuthro i’r ysbyty, lle mae hi’n gorwedd mewn coma. Yma, caiff ymweliad gan ei diweddar dad, Daf, sy’n gyn-chwaraewr tenis proffesiynol y mae Alys yn gobeithio ei efelychu.
Mae’r byd fel y mae Alys yn ei adnabod yn cael ei droi wyneb i waered pan fydd meddygon yn rhoi diagnosis iddi o cardiomyopathi hypertroffig (HCM); cyflwr lle mae wal cyhyrau’r galon yn dod yn fwy trwchus ac mae pwmpio gwaed o gwmpas y corff yn dasg anoddach. Gydag athletwyr proffesiynol enwog fel y pêl-droediwr Fabrice Muamba a’r chwaraewyr pêl-fasged Hank Gathers a Will Kimble yn adnabyddus am gael diagnosis, mae’r cyflwr wedi ymddangos yn aml mewn penawdau yn y byd go iawn oherwydd ei effaith bosibl. Nid yn unig y mae Alys yn deall y gallai ei diagnosis olygu diwedd ei gyrfa ei hun, mae hi hefyd sylweddoli y gallai’r cyflwr hwn a etifeddodd, a achoswyd gan nam yn ei genom, fod wedi achosi marwolaeth anesboniadwy ei thad.

“Roedd ymchwilio i’r ddrama hon yn brofiad hynod deimladwy wrth i bobl rannu eu straeon. Mae’n teimlo’n iawn i adrodd y stori hon ar ffurf sain, sy’n ffordd bersonol iawn o adrodd straeon lle mae’r gwrandäwr yn creu’r delweddau yn ei feddwl ei hun. Rydw i wrth fy modd y bydd pobl yn gallu gwrando arni ar eu ffonau, o ble bynnag, a galla i ddim aros i ddechrau yn yr ystafell ymarfer.”
– Lisa Parry
Mae sgript Lisa, sy’n cael ei llywio gan brofiad arbenigwyr mewn geneteg a genomeg, cardiolegwyr a’r rhai sy’n byw gyda cardiomyopathi hypertroffig, yn archwilio effaith y diagnosis, sy’n newid bywyd, ar berthnasau, uchelgeisiau ac iechyd meddwl. Wrth i Alys bwyso ar ei thad am gefnogaeth wrth ddod i delerau â’r syniad o ddychwelyd at ei chorff ac i fywyd heb denis proffesiynol, mae hi’n dechrau deall bod yn rhaid iddi symud y tu hwnt i’r galar mae hi’n ei deimlo yn y pen draw, wrth lywio realiti newydd heriol.
“Yn dilyn llwyddiant TREMOLO, rydym yn gwybod bod y dull creadigol hwn yn helpu’r boblogaeth ehangach i ddeall perthnasedd a phwysigrwydd genomeg i unigolion a theuluoedd. Bydd hyn yn allweddol wrth i dechnoleg wella, ac wrth i ni ddeall a chymhwyso genomeg yn fwy.”
-Michaela John, Pennaeth Rhaglenni GPW

Theatr Illumine
Mae Theatr Illumine yn gydweithrediad rhwng y dramodydd o Gaerdydd, Lisa Parry, a’r cyfarwyddwr arobryn Zoë Waterman. Mae Illumine yn creu theatr gydag ysgrifennu newydd wrth ei wraidd, theatr sy’n datgelu straeon cudd sy’n gwbl amlwg – straeon o’n cwmpas rydyn ni’n rhy brysur i sylwi arnynt. Nod Illumine yw annog trafodaeth, creu theatr i bawb ac estyn allan at gynulleidfaoedd sy’n cael eu hanwybyddu.
Ffurfiwyd Illumine yn 2016 ar ôl dros ddegawd o gydweithio ysbeidiol rhwng Lisa a Zoë ar wahanol brosiectau, yn arbennig yn Theatre503, Arcola ac Arch468. Ei gynhyrchiad cyntaf oedd 2023 yn Chapter, a gafodd ei ddisgrifio gan feirniaid fel ‘cyfareddol’, a perfformiwyd adrannau ohono yn ddiweddarach yn y Barbican, Llundain ar ôl i’r cwmni gael ei wahodd i gymryd rhan yn Fertility Fest
Ers hynny mae Tremolo wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Drama Sain y BBC 2023, gyda Gareth Elis yn rownd derfynol Gwobr Marc Beeby am y Perfformiad Cyntaf Gorau.