Hyrwyddwr Genomeg: Rachel Thomas

Rachel Thomas
Uwch-wyddonydd Biofeddygol
Ysbyty Maelor Wrecsam

Fy enw i yw Rachel Thomas ac Uwch-wyddonydd Biofeddygol ydw i sy’n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn labordy microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fy rôl i yw goruchwylio’r labordy bacterioleg yn Wrecsam, gan brosesu samplau allweddol megis meithriniadau gwaed a hylifau di-haint ar gyfer microsgopi, meithriniadau, a nodi micro-organebau pathogenig.

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r labordy wedi ymestyn ei gwmpas i gynnwys profi am COVID-19 ar gyfer sgrinio cleifion mewnol arferol a phrofion diagnostig cyflym, gan ddefnyddio platfformau moleciwlaidd amrywiol.

 

Mae’r gallu i nodi a nodweddu samplau pathogenig yn gyflym er mwyn rheoli gofal cleifion yn effeithiol yn ogystal â monitro epidemioleg clefydau heintus wedi arwain at weithredu genomeg fel rhan o wahanol lwybrau llif gwaith newydd ym maes microbioleg. Gyda hyn mewn golwg, ym mis Ebrill 2018, dechreuais MSc mewn Meddygaeth Genomeg, a wnes i ei gwblhau’n llwyddiannus ym mis Mawrth 2020.

 

Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd wedi rhoi mewnwelediad i mi ar sut y gall genomeg lunio dyfodol y gwasanaeth microbioleg glinigol. Mae’r gallu i gael dealltwriaeth dda o’r canlyniadau a ddarperir gan Uned Genomeg Pathogenau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galluogi cydberthynas gwaith gwell â’r uned atgyfeirio ac mae’n darparu gwasanaeth gwell cyffredinol i’n defnyddwyr.

 

Roedd dod yn hyrwyddwr genomeg yn teimlo fel y dilyniant naturiol ar ôl cwblhau fy Msc. Fy nod yw hyrwyddo defnyddio genomeg ym maes microbioleg ac annog fy nghydweithwyr drwy raglenni hyfforddiant ac addysg i gael trosolwg a dealltwriaeth gyffredinol o sut y gellir defnyddio genomeg yn ein maes.