Hyrwyddwr Genomeg: Bryony Coupe

Dr. Bryony Coupe
Meddyg Iau
Ysbyty Treforys

Rwy’n feddyg iau sy’n gweithio ym maes meddygaeth gyffredinol ar hyn o bryd yn Ysbyty Treforys. Fel hyfforddai meddygol craidd academaidd gyda rhywfaint o ddealltwriaeth o bwysigrwydd datblygu genomeg, yn 2018 roeddwn yn un o’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i ymgymryd â’r MSc mewn Meddygaeth Genomig ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn haematoleg, oncoleg a chlefydau heintus, a chan fod genomeg yn dod yn rhan annatod o’r meysydd hyn, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy.

 

Rwyf wedi dod i werthfawrogi bod genomeg yn chwyldroi gofal iechyd yn gyffredinol, gan ehangu ein dealltwriaeth a thriniaeth o glefydau ac felly yn gwella gofal cleifion. Fel hyrwyddwr genomeg, rwy’n awyddus i hyrwyddo buddion integreiddio genomeg i’n hymarfer.

 

Teimlaf yn eithaf angerddol mai un o’n heriau mwyaf yw’r diffyg ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd. Mae hyn yn fy mhoeni, oherwydd heb ymgysylltu a chydweithio, ni allwn farnu blaenoriaethau cyllido yn ddigonol na goblygiadau moesegol newid yn ein harfer.

 

Rwyf wedi bod yn awyddus i gyflwyno ar brif ffrydio genomeg a chefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ogystal ag archwilio’r goblygiadau moesegol hyn mewn cynadleddau rhyngwladol ac mewn cyhoeddiadau. Mae croeso i bobl gysylltu â mi i gael rhagor o wybodaeth.