Mae partneriaethau newydd a datblygu ymhellach bartneriaethau presennol rhwng gwasanaethau clinigol, academia, diwydiant a chleifion a’r cyhoedd yn hanfodol er mwyn i ni wireddu manteision genomeg er budd meddygaeth fanwl yng Nghymru.
Bydd partneriaethau cadarn ac effeithiol yn prysuro newidiadau, yn cyflymu’u mabwysiadu ac yn gwella canlyniadau o safon i gleifion.
Mae ein partneriaid yn ein cynorthwyo ni â datblygiad gwyddorau bywyd yng Nghymru ac yn galluogi cymryd risgiau a gwneud penderfyniadau ar y cyd i gyflawni’r pum agwedd ar feddygaeth fanwl: rhagweld ac atal clefydau; diagnosisau mwy cywir; ymyriadau targedig a rhai wedi’u haddasu’n bersonol; a mwy o rôl i gleifion ei chwarae.