Ymunwch â ni ddydd Mercher, 6 Mai 2020, ar gyfer yr Arddangosfa Genomeg gyntaf.
Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Dyma ddigwyddiad newydd a chyffrous a disgwylir iddo ddwyn ynghyd ysgolheigion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol meddygol.
Bydd yn ddiwrnod prysur, llawn anerchiadau cyhoeddus, ffilmiau ac animeiddiadau addysgol, a stondinau rhyngweithiol gan elusennau a phartneriaid Partneriaeth Genomeg Cymru.