{"id":11314,"date":"2024-10-10T09:00:32","date_gmt":"2024-10-10T08:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/?p=11314"},"modified":"2025-03-07T14:19:25","modified_gmt":"2025-03-07T14:19:25","slug":"mae-gen-i-hemocromatosis-genetig-safbwynt-aelod-or-bwrdd-seinio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/newyddion\/mae-gen-i-hemocromatosis-genetig-safbwynt-aelod-or-bwrdd-seinio\/","title":{"rendered":"\u201cMae gen i Hemocromatosis Genetig\u201d &#8211; Safbwynt aelod o&#8217;r Bwrdd Seinio"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"11314\" class=\"elementor elementor-11314 elementor-11289\" data-elementor-post-type=\"post\">\n\t\t\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-25dbdc2 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"39182\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"25dbdc2\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-ff4c54f elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"ff4c54f\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h2 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">\u201cMae gen i Hemocromatosis Genetig\u201d - Safbwynt aelod o'r Bwrdd Seinio <\/h2>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-90ec6c7 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"89116\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"90ec6c7\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-3fd1ff4 e-con-full e-flex e-con e-child\" data-eae-slider=\"98056\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"3fd1ff4\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-bbf7ae9 elementor-widget elementor-widget-image\" data-id=\"bbf7ae9\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"image.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<figure class=\"wp-caption\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"494\" height=\"495\" src=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ian-Thomas-1.jpg\" class=\"attachment-large size-large wp-image-11291\" alt=\"\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<figcaption class=\"widget-image-caption wp-caption-text\"><\/figcaption>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/figure>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-6c1b8af e-con-full e-flex e-con e-child\" data-eae-slider=\"90480\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"6c1b8af\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-d07ecdb elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"d07ecdb\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Ymateb y rhan fwyaf o bobl pan rwy\u2019n dweud hynny yw \u201cBeth yw hwnna? Dwi erioed wedi clywed amdano\u201d \u2013 sydd braidd yn eironig, gan mai Hemocromatosis Genetig neu Etifeddol (GH) yw\u2019r anhwylder genyn sengl etifeddol mwyaf cyffredin sy\u2019n effeithio ar bobl o dras gogledd Ewrop, ac mae\u2019n arbennig o gyffredin mewn gwledydd lle mae llawer o bobl yn dod o gefndir Celtaidd, fel Cymru, Iwerddon, a\u2019r Alban.<\/p>\n<p>Mae hemocromatosis, mewn geiriau syml, yn gyflwr etifeddol lle mae lefelau haearn yn y corff yn cronni\u2019n araf dros flynyddoedd lawer. Gelwir y croniad hwn o haearn yn \u2018orlwyth haearn\u2019.<\/p>\n<p>Amcangyfrifir bod oddeutu 1 ym mhob 250 i 300 o bobl yn homosygaidd ar gyfer y mwtaniad hemocromatosis (hynny yw, bydd wedi etifeddu\u2019r un amrywiad genyn gan y ddau riant biolegol), ac mae o leiaf 1 ym mhob 10 person yn gludwr ar gyfer y genyn wedi\u2019i fwtadu.<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-df3af03 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"79746\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"df3af03\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-16eee22 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"16eee22\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Gyda\u2019r lefel yma o achosion, ni ellir, wrth reswm, ei ddisgrifio fel cyflwr \u201cprin\u201d. Ac eto, er gwaethaf y ffigurau hynny, o fy mhrofiad i, ymddengys mai ychydig iawn o bobl wedi clywed y cyflwr &#8211; ac nid yw\u2019r diffyg gwybodaeth hwn wedi\u2019i gyfyngu i\u2019r cyhoedd. Mae\u2019r adroddiadau y mae\u2019r rhai sy\u2019n dioddef o Hemocromatosis Genetig yn eu cyflwyno i\u2019r fforymau ar-lein a\u2019r grwpiau cymorth yn cadarnhau hefyd, yn aml, nad yw llawer o feddygon teulu ac ymarferwyr meddygol eraill yn ymwybodol o\u2019r cyflwr. Mae un astudiaeth yn awgrymu mai dim ond ychydig achosion o hemocromatosis y bydd y rhan fwyaf o feddygon yn dod ar eu traws yn ystod eu hymarfer clinigol cyfan. Mae\u2019n debyg bod hyn oherwydd, yn gyntaf, nad ydynt yn profi eu cleifion am orlwyth haearn, ac yn ail, oherwydd na fydd pob claf \u00e2 hemocromatosis yn arddangos symptomau. Y mwyaf cyffredin o\u2019r rhain yw blinder, colli pwysau, diffyg ymgodol ymhlith dynion neu fislif afreolaidd, mislif sy\u2019n dod i ben neu golled mislif ymhlith menywod, niwl yr ymennydd, newidiadau mewn hwyliau, iselder a gorbryder. Os rhoddir diagnosis a thriniaeth yn gynnar, nid yw hemocromatosis yn effeithio ar ddisgwyliad oes ac mae\u2019n annhebygol o arwain at broblemau difrifol. Ond os na chaiff ei ddarganfod nes ei fod yn fwy datblygedig, gall y lefelau haearn uchel arwain at gymhlethdodau a allai fod yn ddifrifol, fel niwed i\u2019r afu (gan gynnwys sirosis neu ganser yr afu), diabetes, arthritis, a methiant y galon.<\/p>\n<p>O brofiadau a rennir o fewn grwpiau cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed ar \u00f4l diagnosis, mae mynediad at driniaeth yn amrywio yn dibynnu ar ble mae person yn byw yn y DU. Mae triniaeth yn syml iawn, yn cynnwys tynnu gwaed i ddechrau, ar amlder sy\u2019n lleihau\u2019r haearn yn y gwaed i lefel dderbyniol ac yna\u2019n parhau yn llai aml (er enghraifft 3 neu 4 gwaith y flwyddyn) i gynnal y lefelau hynny.<\/p>\n<p>Roeddwn yn ffodus bod fy meddyg teulu yn adnabod y symptomau pan es i i fy meddygfa leol ar gyfer fy MOT meddygol yn 65 oed, ac yna gwnaethant fy atgyfeirio i\u2019r Clinig Hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae\u2019r ymgynghoriad cychwynnol a\u2019r driniaeth reolaidd ddilynol yno wedi bod yn rhagorol.<\/p>\n<p>Yn yr un modd \u00e2 chymaint o gyflyrau genetig eraill, ar \u00f4l cael diagnosis, mae\u2019r unigolyn yr effeithir arno yn wynebu rhannu ei ddiagnosis gydag aelodau\u2019r teulu a\u2019u hysbysu o\u2019r risg bosibl i\u2019w hunain. Yn achos Hemocromatosis, yr anhawster mwyaf yw argyhoeddi aelodau\u2019r teulu o\u2019r angen i fynd am brofion, er efallai nad ydyn nhw\u2019n profi unrhyw un o\u2019r symptomau eto. Ynghyd \u00e2 chyflyrau tebyg eraill, er eu bod yn bygwth bywyd yn y tymor hir, nid oes symptomau dramatig ac amlwg yn ymddangos ar unwaith. Yn achos fy nheulu agos fy hun, rwyf wedi cael anhawster mawr yn perswadio fy nau fab i gael diagnosis eu hunain. Cafodd fy mab iau ei ysgogi i wneud hynny pan ddaeth ei wraig yn feichiog, ac felly roedd angen dybryd i ddarganfod a oedd ganddo\u2019r genyn ac a oedd posibilrwydd o\u2019i drosglwyddo i\u2019w blentyn \u2013 sy\u2019n ysgogiad cyffredin iawn i weithredu ymhlith cludwyr posibl. Ymddengys bod y rhan fwyaf i bobl yn amharod i gael eu profi fel arall.<\/p>\n<p>Yn ogystal, gan nad yw effeithiau GH yn aml yn amlygu eu hunain tan yn ddiweddarach mewn bywyd \u2013 yn enwedig yn achos dioddefwyr benywaidd, oherwydd gall eu lefelau haearn gael eu heffeithio gan fislif \u2013 mae\u2019n aml yn anodd argyhoeddi aelodau\u2019r teulu o\u2019r perygl \u2018cudd\u2019 sydd gan y cyflwr.<\/p>\n<p>Yn y dyfodol, hoffwn weld cydnabyddiaeth fwy eang o Hemocromatosis Genetig fel cyflwr sydd, er ei fod yn gymharol gyffredin, ddim yn cael y sylw na\u2019r cyhoeddusrwydd sydd ei angen arno yn fy marn i. Efallai mai\u2019r rheswm am hyn yw nad yw\u2019n arwain at symptomau \u2018dramatig\u2019 ar unwaith, ac mae\u2019r symptomau yn hawdd i\u2019w drysu \u00e2 chyflyrau eraill. Mae canlyniadau hirdymor difrifol posibl y cyflwr, os na chaiff ei drin, yn golygu bod addysg barhaus ar GH yn hollbwysig ynghyd \u00e2 chefnogaeth briodol i\u2019r rhai sydd wedi cael diagnosis, yn ddelfrydol ar ffurf cwnsela genetig.<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cMae gen i Hemocromatosis Genetig\u201d &#8211; Safbwynt aelod o&#8217;r Bwrdd Seinio Ymateb y rhan fwyaf o bobl pan rwy\u2019n dweud hynny yw \u201cBeth yw hwnna? Dwi erioed wedi clywed amdano\u201d \u2013 sydd braidd yn eironig, gan mai Hemocromatosis Genetig neu Etifeddol (GH) yw\u2019r anhwylder genyn sengl etifeddol mwyaf cyffredin sy\u2019n effeithio ar bobl o dras [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":143891584,"featured_media":11291,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"advanced_seo_description":"","jetpack_seo_html_title":"","jetpack_seo_noindex":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"_wpas_customize_per_network":false,"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1396],"tags":[],"class_list":["post-11314","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ian-Thomas-1.jpg","jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pb2bmH-2Wu","jetpack_sharing_enabled":true,"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11314","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/143891584"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11314"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11314\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11729,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11314\/revisions\/11729"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11291"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11314"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11314"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11314"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}