{"id":11250,"date":"2024-09-27T14:47:51","date_gmt":"2024-09-27T13:47:51","guid":{"rendered":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/?p=11250"},"modified":"2024-09-27T15:04:15","modified_gmt":"2024-09-27T14:04:15","slug":"prosiect-quicdna-yn-cael-ei-ehangu-ledled-cymru-gan-arwain-y-chwyldro-mewn-diagnosis-canser-yr-ysgyfaint","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/newyddion\/prosiect-quicdna-yn-cael-ei-ehangu-ledled-cymru-gan-arwain-y-chwyldro-mewn-diagnosis-canser-yr-ysgyfaint\/","title":{"rendered":"Prosiect QuicDNA yn cael ei ehangu ledled Cymru gan arwain y chwyldro mewn diagnosis canser yr ysgyfaint"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"11250\" class=\"elementor elementor-11250 elementor-11226\" data-elementor-post-type=\"post\">\n\t\t\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-de63b91 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"3425\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"de63b91\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-90fbdff elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"90fbdff\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h2 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Prosiect QuicDNA yn cael ei ehangu ledled Cymru gan arwain y chwyldro mewn diagnosis canser yr ysgyfaint  <\/h2>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-1497944 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"54965\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"1497944\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-82b4707 elementor-widget elementor-widget-image\" data-id=\"82b4707\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"image.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"2048\" height=\"1205\" src=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4.jpg\" class=\"attachment-full size-full wp-image-10883\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4.jpg 2048w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4-1020x600.jpg 1020w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4-1024x603.jpg 1024w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4-768x452.jpg 768w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4-1536x904.jpg 1536w\" sizes=\"(max-width: 2048px) 100vw, 2048px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-d366872 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"45512\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"d366872\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-11454e4 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"11454e4\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Mae\u2019r astudiaeth QuicDNA wedi gwneud darganfyddiadau pwysig o ran diagnosis canser yr ysgyfaint ac mae newydd gyrraedd carreg filltir bwysig wrth i\u2019r prosiect gael ei gyflwyno mewn chwech Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen wrth ddarparu mynediad at dechnoleg biopsi hylif i gleifion ledled y wlad. Mae gan y dechnoleg newydd yma botensial i drawsnewid llwybrau gofal cleifion o ran diagnosis a thriniaeth. \u00a0<\/p><p>\u00a0<\/p><p>Dechreuodd y prosiect QuicDNA yn gynnar yn 2023 yn canolbwyntio ar gynnwys profion ctDNA anymwthiol oddi mewn i broses diagnostig canser yr ysgyfaint. Drwy ddadansoddi sampl gwaed syml, mae biops\u00efau hylif yn cynnig dewis llai ymwthiol a chyflymach na biops\u00efau meinwe traddodiadol. Mae\u2019r datblygiad hwn yn cyflymu penderfyniadau ynghylch diagnosis a thriniaeth, gyda\u2019r nod o wella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.\u00a0<\/p><p>\u00a0<\/p><p>Mae\u2019r prosiect wedi ymrwymo i gasglu tystiolaeth ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif mewn llwybrau trin canser, gan gyfrannu at Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Cynhaliwyd y prosiect yn wreiddiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Caerdydd a\u2019r Fro, ond bellach mae\u2019r astudiaeth QuicDNA wedi ehangu i bedwar ardal newydd arall: Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Roedd y Ganolfan Treialon Ymchwil yng Nghaerdydd yn allweddol o ran sefydlu a chynnal yr astudiaeth, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflwyno\u2019n ddidrafferth ar draws yr ardaloedd. Wrth ehangu\u2019r astudiaeth i ragor o ardaloedd, bydd modd i gleifion ledled Cymru gael budd o\u2019r dechnoleg arloesol hon. \u00a0<\/p><p><strong>Ymdrechion ar y cyd ac amcanion i\u2019r dyfodol:<\/strong><\/p><p>Mae gweithio ar y cyd yn ganolog i\u2019r prosiect QuicDNA, gyda phartneriaid o ofal iechyd, diwydiant a\u2019r llywodraeth yn cydweithio i drawsnewid llwybrau triniaeth canser.<\/p><p>Mae Craig Maxwell, cyn brif swyddog masnachol gyda thwrnamaint rygbi\u2019r Chwe Gwlad ac Undeb Rygbi Cymru, wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi\u2019r astudiaeth QuicDNA. Ac yntau wedi cael ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint cam IV ym mis Medi 2022, mae Craig wedi codi llawer o arian ac wedi sefydlu\u00a0<a href=\"https:\/\/maxwell.foundation\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener nofollow\">Cronfa Genomeg y Teulu Maxwell<\/a>\u00a0i gefnogi datblygiadau pellach ac arloesedd genomeg yng Nghymru.<\/p><blockquote><p><em>\u201cDyma\u2019r dyfodol o ran diagnosis canser, a diolch i\u2019r cynllun hwn ac eraill, gall Cymru fod mewn safle gwych i ddarparu hyn a gwella\u2019r canlyniadau i\u2019n poblogaeth &#8211; oherwydd maen nhw\u2019n haeddu hynny.\u201d\u00a0<\/em>&#8211;<strong>\u00a0Yr Athro Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru.<\/strong><\/p><\/blockquote><blockquote><p><em>\u2018A finnau wedi gweithio 33 mlynedd mewn labordy genomeg, dydw i erioed wedi cwrdd ag eiriolydd mor ysbrydoledig dros y gwasanaethau canser genomeg a ddarperir yn GIG Cymru na Craig Maxwell. Mae ei ymdrechion codi arian wedi bod yn hanfodol i allu ehangu\u2019r astudiaeth i bob un o\u2019r chwe bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae QuicDNA yn brosiect chwyldroadol a fydd yn hwyluso\u2019r gwaith clinigol o gynnal profion biopsi hylif mewn achosion lle mae amheuaeth o ganser. Bydd hyn yn cyflymu mynediad at driniaethau wedi\u2019u targedu er mwyn atal y clefyd rhag gwaethygu a gwella cyfle\u2019r claf o oroesi.\u201d &#8211;\u00a0<strong>Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Labordy Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS).<\/strong><\/em><\/p><\/blockquote><blockquote><p><em>\u201cMae stori Craig Maxwell yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae ei frwydr bersonol ar \u00f4l iddo gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint wedi tanio awydd ynddo i gefnogi\u2019r astudiaeth QuicDNA, gan sicrhau bod cleifion eraill yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt. Mae ymdrechion Craig wedi bod yn allweddol o ran cyflwyno\u2019r astudiaeth QuicDNA ledled Cymru. Nod yr astudiaeth yw defnyddio biops\u00efau hylif i gwtogi\u2019r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, gan arbed bywydau gobeithio. Mae Craig hefyd wedi ein hysbrydoli i archwilio biops\u00efau hylif ar gyfer mathau eraill o ganser.\u201d &#8211;\u00a0<strong>Dr Magda Meissner &#8211; Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Uwch-ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerydd, Prif Ymchwilydd yr Astudiaeth QuicDNA<\/strong><\/em><\/p><\/blockquote><blockquote><p><em>\u201cMae wedi bod yn anrhydedd anhygoel i fod yn rhan fechan o\u2019r t\u00eem QuicDNA, yn gweithio i gyflwyno diagnosis cyflymach i gleifion fel fi yn y dyfodol. Cymrodd 78 diwrnod i fi gael diagnosis o ganser ar fy nhiwmor, ond doedd dim bai ar neb am hynny. Yn ystod y 78 diwrnod hynny, doeddwn i ddim yn gallu cario ymlaen oherwydd fy mod yn poeni am beth oedd o\u2019m blaen. Doeddwn i chwaith ddim wedi cael unrhyw driniaeth ar gyfer fy nghlefyd. Gyda\u2019r dechnoleg newydd hon, gall teuluoedd sydd yn yr un sefyllfa \u00e2 fi elwa o gael diagnosis a thriniaeth yn gynt, fel eu bod yn gallu mwynhau\u2019r amser gwerthfawr gyda\u2019i gilydd. Mae\u2019r prosiect hwn yn enghraifft go-iawn o bobl ymroddgar o wahanol adrannau o\u2019r system gofal iechyd yn dod ynghyd i ddatrys problem. Po fwyaf y gallwn ni gydweithio i fynd i&#8217;r afael \u00e2\u2019r clefyd hwn, y gorau bydd y dyfodol i bawb.\u201d<\/em>\u00a0<strong>&#8211; Craig Maxwell (cynrychiolydd cleifion ar gr\u0175p llywio QuicDNA)<\/strong><\/p><\/blockquote><p><strong>Manteision allweddol:<\/strong><\/p><ul><li><strong>Canfod a thrin y canser yn gynnar:<\/strong>\u00a0Mae biops\u00efau hylif anymwthiol ar gyfer canser yr ysgyfaint yn galluogi cynnal profion yn gynharach ar y llwybr canser ac yn cyflymu\u2019r broses penderfyniadau ar gyfer triniaethau wedi\u2019u targedu. Mae\u2019n bosib y gall hyn arwain at wella\u2019r canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.<\/li><li><strong>Casglu tystiolaeth ar lawr gwlad:<\/strong>\u00a0Mae\u2019r prosiect hwn yn gwerthuso tystiolaeth a gesglir ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif yn y llwybr trin canser, gan ddilyn egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.<\/li><li><strong>Cymru ar flaen y gad:<\/strong>\u00a0Drwy fabwysiadu dulliau genomeg arloesol, mae Cymru ar flaen y gad o ran darparu triniaethau gofal iechyd ar y rheng flaen a all achub bywydau.<\/li><li><strong>Trawsnewid gwasanaethau diagnostig:<\/strong>\u00a0Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd \u00e2 phartneriaid amlddisgyblaethol ym maes gofal iechyd, diwydiant ac eraill, wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau diagnostig yng Nghymru drwy bwyso a mesur technolegau newydd, megis biops\u00efau hylif.<\/li><\/ul><p>\u00a0<\/p><p>Yn y dyfodol, bydd y data gesglir yn caniat\u00e1u gwerthusiad economeg iechyd, gyda\u2019r nod y bydd GIG Cymru yn comisiynu ctDNA yn rheolaidd erbyn 2025. Mae\u2019r prosiect hwn nid yn unig yn ceisio gwella diagnosis canser yr ysgyfaint, ond hefyd yn braenaru\u2019r tir ar gyfer defnyddio biopsi hylif gyda mathau eraill o ganser, gan arwain at gamau trawsnewidiol o ran gofal canser.<\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>QuicDNA project expands across Wales, revolutionising lung cancer diagnosis In a significant breakthrough for lung cancer diagnostics, the QuicDNA study has now reached a major milestone, expanding to include six Health Boards across Wales. This expansion marks a monumental step forward in providing lung cancer patients nationwide with access to cutting-edge liquid biopsy technology, potentially [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":143891584,"featured_media":10883,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"advanced_seo_description":"","jetpack_seo_html_title":"","jetpack_seo_noindex":false,"jetpack_seo_schema_type":"","_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_wpcom_ai_launchpad_first_post":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"{title}\n\n{excerpt}\n\n{url}","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"_wpas_customize_per_network":false,"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1396],"tags":[],"class_list":["post-11250","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/quicdna4.jpg","jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pb2bmH-2Vs","jetpack_sharing_enabled":true,"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/143891584"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11250"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11255,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11250\/revisions\/11255"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10883"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}