{"id":10146,"date":"2023-12-08T17:19:25","date_gmt":"2023-12-08T17:19:25","guid":{"rendered":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/?p=10146"},"modified":"2023-12-08T17:53:33","modified_gmt":"2023-12-08T17:53:33","slug":"llwyddiant-i-brosiect-quicdna-yng-ngwobrau-arloesi-mediwales-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/newyddion\/llwyddiant-i-brosiect-quicdna-yng-ngwobrau-arloesi-mediwales-2023\/","title":{"rendered":"Llwyddiant i Brosiect QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"10146\" class=\"elementor elementor-10146 elementor-10136\" data-elementor-post-type=\"post\">\n\t\t\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-9b7b827 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"68927\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"9b7b827\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-711a917 elementor-widget elementor-widget-heading\" data-id=\"711a917\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"heading.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<h2 class=\"elementor-heading-title elementor-size-default\">Llwyddiant i Brosiect QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023\n<\/h2>\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-9e97e25 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"29455\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"9e97e25\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-5fbf7cb elementor-widget elementor-widget-global elementor-global-7458 elementor-widget-post-info\" data-id=\"5fbf7cb\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"post-info.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t<ul class=\"elementor-inline-items elementor-icon-list-items elementor-post-info\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<li class=\"elementor-icon-list-item elementor-repeater-item-7155652 elementor-inline-item\" itemprop=\"datePublished\">\n\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/2023\/12\/08\/\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-icon-list-icon\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t<svg aria-hidden=\"true\" class=\"e-font-icon-svg e-fas-calendar\" viewBox=\"0 0 448 512\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\"><path d=\"M12 192h424c6.6 0 12 5.4 12 12v260c0 26.5-21.5 48-48 48H48c-26.5 0-48-21.5-48-48V204c0-6.6 5.4-12 12-12zm436-44v-36c0-26.5-21.5-48-48-48h-48V12c0-6.6-5.4-12-12-12h-40c-6.6 0-12 5.4-12 12v52H160V12c0-6.6-5.4-12-12-12h-40c-6.6 0-12 5.4-12 12v52H48C21.5 64 0 85.5 0 112v36c0 6.6 5.4 12 12 12h424c6.6 0 12-5.4 12-12z\"><\/path><\/svg>\t\t\t\t\t\t\t<\/span>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-icon-list-text elementor-post-info__item elementor-post-info__item--type-date\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<time>December 8, 2023<\/time>\t\t\t\t\t<\/span>\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/a>\n\t\t\t\t<\/li>\n\t\t\t\t<\/ul>\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<div class=\"has_eae_slider elementor-element elementor-element-63deff9 e-flex e-con-boxed e-con e-parent\" data-eae-slider=\"42832\" data-particle_enable=\"false\" data-particle-mobile-disabled=\"false\" data-id=\"63deff9\" data-element_type=\"container\" data-e-type=\"container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"e-con-inner\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-9c525cf elementor-widget elementor-widget-image\" data-id=\"9c525cf\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"image.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"480\" src=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales-1024x615.jpg\" class=\"attachment-large size-large wp-image-10134\" alt=\"Image shows people gathered together holding an award\" srcset=\"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales-1024x615.jpg 1024w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales-999x600.jpg 999w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales-768x461.jpg 768w, https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales.jpg 1147w\" sizes=\"(max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-5f757f1 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"5f757f1\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<p>Roedd hi\u2019n noson lwyddiannus i QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Daeth y rhaglen i\u2019r brig yn y categori \u2018GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant \u2019. Cafodd QuicDNA ei gydnabod am ei ymdrechion i ddod \u00e2 phartneriaid ym maes diwydiant at ei gilydd i gefnogi\u2019r gwaith o weithredu a gwerthuso technoleg biopsi hylif arloesol ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint ar draws Byrddau Iechyd yng Nghymru.<\/p><p>Mae biops\u00efau hylif yn cynnwys prawf gwaed i ddarparu dadansoddiad genomig manwl er mwyn llywio triniaethau canser wedi\u2019u targedu. Maen nhw\u2019n ddewis syml ac anymwthiol yn lle biops\u00efau tiwmor a gellir eu cynnal yn gynnar yn y llwybr diagnostig. Y gobaith yw y byddant yn caniat\u00e1u i gleifion ddechrau triniaeth yn gynt. Gallai tystiolaeth a gesglir yn y gwerthusiad hwn olygu y gallai biops\u00efau hylif ddod yn safon gofal ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.<\/p><p>Mae amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant wedi cefnogi\u2019r prosiect, gan gynnwys technoleg Illumina, Amgen, AstraZeneca, Bayer a Lilly. Ymysg y sefydliadau eraill sy\u2019n rhan o\u2019r fenter draws-sector hon mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Moondance Cancer Initiative, nifer o Fyrddau Iechyd Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.<\/p><p>Roedd y wobr hon yn cydnabod ei ddull arloesol o gydweithio ar draws sectorau a sut mae\u2019n helpu i drawsnewid y GIG a gwella canlyniadau i gleifion.<\/p><p>Bellach yn ei 18<sup>fed<\/sup> flwyddyn, mae Gwobrau Arloesi MediWales yn dathlu\u2019r gorau o\u2019r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Maen nhw\u2019n dod ag aelodau o\u2019r diwydiant, y byd academaidd a staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gydnabod ei gyflawniadau ac i dynnu sylw at effaith arloesi. .<\/p><p><strong>Dywedodd Si\u00e2n Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy yn AWMGS:<\/strong><\/p><p><em>\u201cRwyf yn hynod ddiolchgar bod y Prosiect QuicDNA wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr iechyd \u2018GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant\u2019 yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023. Mae\u2019n anrhydedd mawr i mi fod QuicDNA yn cael ei gydnabod fel hyn.<\/em><\/p><p><em>Mae prosiect QuicDNA yn brosiect gwirioneddol gydweithredol rhwng y GIG, y trydydd sector, y sector fferyllol, diwydiant, y brifysgol a chleifion. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect rydym mor frwdfrydig yn ei gylch hefyd yn un y mae eraill yn gweld gwerth ynddo.\u00a0 Rydym yn gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Arloesi MediWales yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd i gydweithio\u2019n agosach \u00e2 diwydiant. Rydym yn hynod falch y bydd y prosiect yn galluogi cleifion sydd \u00e2 chanser yr ysgyfaint i gael triniaethau yn gyflymach yn y dyfodol o fewn y GIG.\u2019<\/em><\/p><p><strong>Dywedodd Magda Meissner, Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yn AWMGS:<\/strong><\/p><p><em>\u201cRydw i\u2019n gwerthfawrogi\u2019n fawr y ffaith fod QuicDNA wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Mae&#8217;r prosiect hwn yn dangos sut gall partneriaid o sawl sector gwahanol &#8211; gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y GIG, y trydydd sector, a chleifion &#8211; gydweithio&#8217;n effeithiol. Nod QuicDNA yw cael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar y gwaith o ddiagnosio a thrin cleifion \u00e2 chanser yr ysgyfaint, gan wneud yn si\u0175r eu bod yn cael triniaeth gyflymach a mwy effeithiol.\u201d<\/em><\/p><p><strong>\u00a0<\/strong><\/p><p><strong>Dywedodd Mark Robinson, Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, Illumina:<\/strong><\/p><p><em>\u201cRydym ni yma yn Illumina wrth ein boddau bod astudiaeth QuicDNA wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ei dull gwirioneddol gydweithredol o fynd ati yng nghyswllt yr astudiaeth bwysig hon sy&#8217;n canolbwyntio ar brofi am ganser yr ysgyfaint drwy ddefnyddio biops\u00efau hylif. Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ddatblygu\u2019r maes meddygaeth genomig sydd \u00e2&#8217;r potensial i achub bywydau drwy wneud profion genomig yn rhan annatod o ofal arferol.\u201d<\/em><\/p><p><strong>Yn \u00f4l Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:<\/strong><\/p><p><em>\u201cMae QuicDNA yn enghraifft wych o sut gall cydweithio ar draws sectorau sbarduno arloesedd hanfodol ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymfalch\u00efo yn ein r\u00f4l fel partner yn y prosiect hwn, sydd \u00e2\u2019r potensial i gyflymu triniaeth canser i gleifion yng Nghymru ac i wella canlyniadau. Ac wrth gwrs, rydym yn falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales eleni.\u201d<\/em><\/p>\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llwyddiant i Brosiect QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023 Roedd hi\u2019n noson lwyddiannus i QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Daeth y rhaglen i\u2019r brig yn y categori \u2018GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant \u2019. Cafodd QuicDNA ei gydnabod am ei ymdrechion i ddod \u00e2 phartneriaid ym maes diwydiant at ei gilydd i gefnogi\u2019r gwaith o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":143891588,"featured_media":10134,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"advanced_seo_description":"","jetpack_seo_html_title":"","jetpack_seo_noindex":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"_wpas_customize_per_network":false,"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1396],"tags":[],"class_list":["post-10146","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/MediWales.jpg","jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pb2bmH-2DE","jetpack_sharing_enabled":true,"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10146","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/143891588"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10146"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10146\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10150,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10146\/revisions\/10150"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10134"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10146"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10146"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/genomicspartnership.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10146"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}