Mae Uned Cyfeirio Anaerobau Iechyd Cyhoeddus Cymru (UKARU) y DU a’r Is-adran Diogelu Iechyd yn lansio dull newydd ar gyfer nodweddu (teipio) Clostridioides (Clostridium) difficile. Bydd hyn yn disodli dull cyfredol riboteipio.
Mae’r dull newydd yn defnyddio technoleg ‘Dilyniannu Cenhedlaeth Nesaf’, a elwir hefyd yn ‘Dilyniannu’r Genom Cyfan’. Mae hyn yn golygu y bydd modd gwahaniaethu’n well rhwng unigion, gan gynnwys y gallu i wahaniaethu rhwng mathau o’r un riboteip.
Bydd y gwasanaeth newydd yn rhoi’r canlynol i’r byrddau iechyd:
• Canlyniadau cyn pen cyfnod sy’n ddefnyddiol yn glinigol
• Gwell gwahaniaethu rhwng achosion o haint difficile (CDI)
• Gwahaniaethu rhwng haint sy’n dychwelyd ac ailheintiad
Dros gyfnod o amser, bydd y gwasanaeth yn gwella ein gwybodaeth am ecoleg CDI, gan roi gwell dealltwriaeth inni o’r achosion sy’n digwydd yn y gymuned o’u cymharu â’r rheiny yn yr ysbyty, ynghyd â’r potensial i ganfod penderfynyddion ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Partneriaeth Genomeg Cymru © 2020