Cwrdd â’n Bwrdd Seinio

Menu
Dyma rai o aelodau presennol y Bwrdd Seinio
- Karen Shepherd
- Lucy Dixon
- Amanda Pope
- Siân Phipps
- Louise Wilkinson

Karen Shepherd
Cafodd Karen ddiagnosis o glefyd Parkinson yn 2009, a dyna oedd y catalydd ar gyfer ei hangerdd ynghylch ymchwil iechyd. Mae ymchwil wedi gwella ei dealltwriaeth a'i gwybodaeth ac wedi rhoi hyder iddi gwestiynu a dilyn dull rhagweithiol. Mae Karen hefyd yn ofalwr am ei mab Awtistig, sydd wedi ei galluogi i ennill profiad personol o'r heriau sydd hefyd yn wynebu gofalwyr, ac mae gweithio mewn ysgol gynradd arbennig fel aelod o Staff a Llywodraethwr Ysgol wedi’i galluogi i rannu mewnbwn aml-bersbectif ar gyfer cyflyrau iechyd cymhleth. Fel cynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth ar Fwrdd niwrowyddoniaeth Gogledd Cymru, mae Karen wedi ennill profiad o weithio ar bob lefel gan sicrhau bod ffocws ar y claf ym mhob trafodaeth. Rwy'n aelod gweithredol o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn arbennig grŵp PPI Parc Bangor, sy’n gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr, gwyddonwyr a byrddau iechyd i sicrhau bod ymchwil yn canolbwyntio ar anghenion y bobl. Ymunodd Karen â'r Bwrdd seinio Genomeg y llynedd lle mae'n teimlo ei bod yn cael ei gwerthfawrogi, a chryfder y bwrdd yw dod â Gwyddonwyr, Ymchwilwyr, academyddion a llunwyr polisi at ei gilydd, ynghyd â defnyddwyr gwasanaeth a lle mae gan Gleifion a'r cyhoedd lais amlwg wrth ddylunio a sicrhau ymchwil o'r radd flaenaf a fydd yn sicrhau gwasanaethau iechyd i’r dyfodol ar gyfer holl bobl Cymru.
Lucy Dixon
Mae gan Lucy glefyd genetig prin o'r enw Dyscinesia Ciliaraidd Sylfaenol (PCD) ac mae wedi bod yn eirioli dros gleifion ac wedi cymryd rhan mewn ymchwil ar gleifion ers ei bod yn ifanc. Hi yw Cadeirydd PCD Support UK, mae'n aelod o fwrdd rhwydwaith Ymchwil Glinigol ar y Cyd BEAT-PCD, ac mae'n aelod lleyg o Grŵp Partneriaeth Ymchwil Poblogaeth y DU (PRUK). Mae’n ymddiddori mewn eiriolaeth dros gleifion yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at weld y newidiadau trawsnewidiol y gall genomeg eu hachosi wrth hyrwyddo’r ffordd rydyn ni’n deall ac yn rheoli ein hiechyd.
Amanda Pope
Rwy'n fam i dair merch sy'n oedolion ac yn fuan iawn byddaf yn fam-gu am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2021. Rwyf wedi gweithio i'r GIG am un mlynedd ar bymtheg fel hyfforddwr systemau clinigol, ac ar hyn o bryd rwyf mewn rôl gweithlu a sefydliadol yn cefnogi staff fy sefydliad presennol. Rwyf hefyd yn astudio i ddod yn gwnselydd ac yn gobeithio gwneud hynny fel proffesiwn yn y dyfodol, gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae'r meddwl yn gweithio a chefnogi pobl mewn angen.
Roedd gen i ddiddordeb mewn ymwneud â Genomeg gan fod gen i hanes teuluol o ganser y fron a chyflyrau iechyd meddwl, ac roeddwn i eisiau dysgu mwy am y maes hwn. Cafodd fy mam a’i chwiorydd ganser y fron, a chafodd fy chwaer hŷn ddiagnosis o hyn bymtheng mlynedd yn ôl, a chanfuwyd bod genyn canser y fron ganddi. Cefais innau fy mhrofi ond doedd y genyn ddim gen i, er i mi ddatblygu canser y fron nad oedd yn gysylltiedig â hyn dair blynedd yn ddiweddarach. Fe ges i lawdriniaeth, cemotherapi, a radiotherapi wyth mlynedd yn ôl i drin canser y fron, ac fe ymunais â Grŵp Cyswllt Cleifion Canolfan Ganser Velindre yn 2018 gan fy mod yn angerddol am ofal cleifion ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r ysbyty a oedd wedi fy nghefnogi a'm trin.
Dysgais am Fwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru trwy'r grŵp hwn, a chan fod gennyf ddiddordeb penodol mewn geneteg, roeddwn i’n teimlo y byddai'n faes arall lle gallwn gynnig fy nghefnogaeth a'm mewnbwn. Rwyf wedi mynychu tri o’r cyfarfodydd fforwm hyn hyd yma, ac rwyf wedi mwynhau dysgu am y maes hwn a chyfrannu ato. 