Ymgynghoriad y Gwanwyn 2021
Beth a drafodwyd?
Ar 15 Ebrill, cyfarfu ein Bwrdd Seinio yn rhithiol drwy Zoom ac ymgynghorwyd â hwy ar y pynciau canlynol:
- Ein hymagwedd at gyd-gynhyrchu
- Arddangosfa Genomeg
Ymgynghoriad 1: Ein dull o gyd-gynhyrchu
Dechreuodd y diwrnod gyda chrynodeb o’r adolygiad a gynlluniwyd o’r Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl, y gwaith cyd-gynhyrchu hyd yma a sut mae’r tîm am sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu. Roedd rhai o’ch meddyliau’n cynnwys
Pa mor effeithiol yw ein dull o gyd-gynhyrchu?
Yn eich geiriau eich hun:
“Mae’n bwysig sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed ac yn rhan o’r darlun ehangach” “Cryfder y Bwrdd Seinio Genomeg yw ei fod yn mynd ati i chwilio am brofiadau a llais y cleifion gan sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau o safon i gleifion ledled Cymru” “Mae gwasanaethu ar y Bwrdd hwn a’r grwpiau eraill a’r hyder sydd gennych yn y ffordd yr ydych yn ymdrin â phopeth yn y fath fanylder yn ardderchog”- “Mae ymroddiad y gwyddonwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol eraill yn creu argraff dda arnaf yn gyson. Mae cynrychiolwyr y cleifion bob amser yn cael eu croesawu a’u cynnwys, ac mae ein sylwadau bob amser yn cael eu hystyried”
- “Dyma’r unig le y mae ymchwilwyr, Llywodraeth Cymru a chlinigwyr yn dod wyneb yn wyneb (gyda’r cyhoedd)”
- “Pan fydd angen y GIG yng Nghymru arnoch, mae angen i chi wybod y gallwch ymddiried yn y gwasanaeth, mae gwybod fod Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion mewn gwasanaeth yn rhoi cyfle i chi feddwl bod syniadau a barn yn cael eu gwerthfawrogi. Mae gwybod bod rhywun yn gwrando arnoch yn bwerus iawn ac yn rhoi llais i bobl gyfrannu at newid cadarnhaol”
Adborth Ychwanegol
Roedd mynd i’r afael â gormod o wybodaeth yn thema allweddol yn y trafodaethau, gyda mwy o amser i fyfyrio yn cael ei ychwanegu at ymgynghoriadau, gan sicrhau bod amser i gael adborth ar ôl y digwyddiad. Gallai’r amser ychwanegol hwn ar gyfer myfyrio greu trafodaethau mwy gweithredol, gan alluogi’r grŵp i dyfu.Amlder y Cyfarfodydd:
Angen mynd i’r afael â’r ‘cyfnodau segur’ presennol rhwng Byrddau Seinio gyda chyswllt mwy rheolaidd rhwng cyfarfodydd y bwrdd, ac efallai cyfarfodydd byrrach yn amlachFformat y Cyfarfodydd:
Mae symud i gyflwyno ymgynghoriadau ar-lein drwy Zoom wedi sicrhau mynediad cyfartal, gan ddileu rhwystrau rhanbarthol / daearyddol o ran presenoldeb. Yn awyddus i gadw rhywfaint o hyblygrwydd hybrid ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol hyd yn oed pan fydd yn bosib i gyfarfodydd wyneb yn wyneb ailddechrauPa agweddau ar genomeg sy’n bwysig er mwyn cynnwys ein cleifion a’r cyhoedd yn y dyfodol?
Yn eich geiriau eich hun
- “Mae cael llais a gallu dylanwadu ar eich triniaeth yn helpu i sicrhau gwell canlyniadau i chi ac yn gwella eich ymdeimlad o iechyd a lles”
- “Gall cryfhau llais y claf ond gwella polisi, ymarfer ac ymchwil genomeg”
- “Mae straeon a phrofiadau personol yn ddadl rymus ac argyhoeddiadol dros newid gwasanaethau iechyd a gofal er budd y defnyddiwr”
- “Po fwyaf y mae cleifion yn dysgu am Genomeg a’r ffyrdd y gellir gwella eu hiechyd, y mwyaf y gall y GIG helpu i wella iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn galluogi’r cleifion i herio eu triniaeth”
Ydyn ni’n ymgynghori ar y meysydd pwnc cywir? A oes meysydd allweddol nad ydynt wedi’u cynnwys?
Roeddech yn fodlon gyda’r meysydd pwnc yr ymgynghorir â chi yn eu cylch. Gyda hyn mewn golwg, gwnaethoch bwysleisio’r pwysigrwydd i’r grŵp dderbyn a rhoi adborth y tu hwnt i’r sesiynau ymgynghori eu hunain, efallai ar ffurf taflen wybodaeth ar y meysydd pwnc yr ymgynghorir arnynt, i weld sut maent yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cymharu/cyferbynnu yn erbyn ei gilydd. Roedd sylwadau pellach yn deillio o’r trafodaethau yn cynnwys:- Ystyried sut mae rhaglenni Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd eraill, megis Coleg Brenhinol y Meddygon yn gweithio, ac a ellir addasu’r model hwn i ofynion y Bwrdd
- Ystyried themâu mynych yn y maes genomeg a materion a wynebir wrth ymgysylltu, gan gynnwys arallgyfeirio ar draws y garfan drwy gynrychiolaeth deg o gymunedau ymylol
- Dylid gwneud mwy o ymdrech i gynllunio prosesau i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, ar hyn o bryd mae’r wefan Gymraeg yn hen iawn
- Gyda newid cyflym mae angen strategaeth fwy unedig o ran cyflwyno allbynnau o ymgynghoriadau
Y Camau Nesaf
- Cytunodd Swyddfa’r Rhaglen i ddosbarthu crynodeb o’r trafodaethau yn dilyn sesiynau ymgynghori er mwyn galluogi’r gwaith o ystyried allbynnau yn y cyfamser
- Cytunodd Swyddfa’r Rhaglen i fynd i’r afael â’r cyfnod rhwng cyfarfodydd o ran datblygu dull mwy trylwyr o ddogfennu ac adrodd ar allbynnau er mwyn sicrhau cyfranogiad cyfatebol a chynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad
Sut ydym wedi perfformio yn erbyn ein hamcanion?
Yn gyffredinol, teimlai’r Bwrdd Seinio, o ystyried amgylchiadau heriol y deuddeg mis diwethaf, fod PGC wedi perfformio’n dda, ond bod lle i wella hefydA oes unrhyw amcanion ychwanegol yn ymwneud â chyd-gynhyrchu a fyddai’n bwysig eu cynnwys yn y dyfodol?
Adolygu diben y Bwrdd Seinio er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i symud ymlaen i lywio trafodaethau cyhoeddus ehangach. Angen nodi sut beth yw ystyr cymryd rhan, gan gynnwys gwell defnydd rhwng cyfarfodydd (er enghraifft Rally for Rare, Arddangosfa Genomeg, ac ati)Sut y dylem gyfleu gweithgareddau a chyflawniadau allweddol GPW yn rheolaidd i’r cyhoedd?
- Mae’n bwysig casglu a chynnal momentwm gan ryddhau pytiau yn rheolaidd, wedi’u pecynnu mewn darnau llai yn thematig i’w cyflwyno i’r cyhoedd
- Gyda Twitter defnyddio paragraffau byr, bachog a datganiadau i’r wasg ochr yn ochr â defnyddio mwy ar y wefan – fel defnyddio codau QR i gyfeirio pobl ati
- Defnyddio’r rhwydwaith cyswllt presennol, megis meddygfeydd meddygon teulu neu glinigau cleifion allanol, i ledaenu gwybodaeth mewn fformat y gellir ei argraffu a’i roi ar hysbysfyrddau ac ardaloedd ‘prysur’ eraill, megis safleoedd bysiau
A oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut y gellir cyd-gynhyrchu’r cyfathrebiadau hyn?
- Dealltwriaeth neu gytundeb â Llywodraeth Cymru o ran cysylltu â’u hadrannau cyfathrebu
- Mae’n bwysig cynnwys aelodau’r Bwrdd Seinio ar y cyfle cyntaf posibl mewn paratoadau ar gyfer digwyddiad neu lunio datganiadau i’r wasg. Byddai trefnu bod cynrychiolydd o’r Bwrdd Seinio yn gwasanaethu ar y Grŵp Cyfathrebu Genomeg yn allweddol i gyflawni hyn
- Datblygu dull matrics fel nad yw cyfathrebiadau PGC yn digwydd ar eu pennau eu hunain, gan nodi themâu cyffredin ar draws y bartneriaeth a rhaglenni meddygaeth fanwl eraill i wneud y defnydd gorau o adnoddau
- Mae dysgu o enghreifftiau eraill yn allweddol i sicrhau arfer gorau, megis ailwampio presenoldeb allanol Felindre yn ddiweddar
Ymgynghoriad 2: Arddangosfa Genomeg
Sut ydych chi’n awgrymu ein bod yn hyrwyddo’r digwyddiad hwn i gyrraedd cymaint o aelodau o’r cyhoedd â phosibl o ystyried yr amserlen fer?
- Rydych wedi cytuno i rannu gwybodaeth hyrwyddol am yr Arddangosfa Genomeg ar draws eich rhwydweithiau, a chyda theulu a ffrindiau. Ymhlith y rhwydweithiau eraill i’w defnyddio i hyrwyddo mae’r rhwydweithiau Caffi Genomeg sydd wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf, a chroes-hyrwyddo ar draws yr holl gyfryngau cymdeithasol perthnasol a sianeli eraill (e.e. y wasg leol/genedlaethol, BBC, ac ati). Mae’n bwysig i’r broses gofrestru fod mor hawdd â phosibl
- Byddai amserlen/crynodeb yn ddefnyddiol ar gyfer hysbysu unigolion pan allai pethau fod yn digwydd y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt ac i alluogi pobl i fynd yn ôl ac ymlaen ar y dydd.
- Byddai fideo byr yn disgrifio’r diwrnod yn effeithiol o ran hyrwyddo, gan ddefnyddio ystod o gynrychiolwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr y Bwrdd Seinio
- Cofnodi sgyrsiau a chyflwyniadau y gellir eu defnyddio wedyn fel cynnwys ar YouTube i ennyn diddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol drwy gyflwyno safon uchel y digwyddiad
- Pwysleisiwyd yr angen i fod yn ddwyieithog yng Nghymru. Er mwyn darparu ar gyfer cymorth aml-iaith (e.e. Cymraeg a Saesneg) efallai dylid cynnwys ffordd o gofnodi gofynion iaith unigol pan fydd pobl yn cofrestru
- Dylid hyrwyddo’r digwyddiad ar lefel ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddangos yr uchelgais i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang mewn genomeg, o arloesi clinigol i ymchwil arloesol
Yn yr Arddangosfa, sut mae hyrwyddo’r cyfle i ymuno â’r Bwrdd?
Bydd defnyddio stondin GPW a’r Caffi Genomeg yn allweddol i hyrwyddo’r cyfle hwn yn y digwyddiad. Y tu hwnt i’r digwyddiad, mae’n hanfodol defnyddio rhwydweithiau eraill fel y bo’n briodol (fel HCRW, CRUK, MIND, ac ati) yn ogystal â dulliau hyrwyddo mwy traddodiadol (posteri mewn meddygfeydd, e-byst, ac ati). Roeddech hefyd yn teimlo ei bod yn hanfodol estyn allan at grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy grwpiau diddordeb arbennig ac awdurdodau lleol. Roeddech yn garedig iawn wedi cydsynio i gyd-gynhyrchu fideo yn esbonio’r Bwrdd Seinio i annog aelodau newydd i ymuno (diolch yn fawr i’r rhai a gymerodd ran ar fyr rybudd i gynhyrchu hwn ar gyfer y digwyddiad. Cafodd dderbyniad da iawn ar y diwrnod a gobeithiwn ei fod wedi annog ambell un i gofrestru)Beth fyddai’r cyhoedd eisiau gwybod amdano o ran y meysydd canlynol:
-
Y Strategaeth Genomeg yng Nghymru?
-
Gwasanaethau/gwaith ymchwil genomeg yng Nghymru?
-
Genomeg yn gyffredinol?