Profion Syndrom Lynch ar gyfer holl gleifion canser y coluddyn yng Nghymru

Bowel cancer blog image

Ym mis Mehefin 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i brofi holl gleifion canser y coluddyn am Syndrom Lynch. Bydd Timau Amlddisgyblaethol y colon a’r rhefr yn gweithredu’r gwasanaeth dros y misoedd nesaf.

Mae Syndrom Lynch yn gyflwr sy’n gallu cynyddu’r perygl o ganser y coluddyn o hyd at 80%. Mae’r perygl ei fod yn cael ei basio i blentyn yn yr un uned deuluol yn 50%.

Bydd yr ymrwymiad newydd hwn gan GIG Cymru yn golygu bod modd ymyrryd yn gynt a thargedu ymyriadau gan wella canlyniadau i gleifion canser y coluddyn yn y dyfodol. Bydd yn cyflawni hyn drwy fynd ati’n rhagweithiol i brofi pob unigolyn sy’n cael diagnosis o ganser y coluddyn.

Pan ddarganfyddir amrywiad genyn pathogenig, bydd hyn yn galluogi’r GIG i dargedu teuluoedd yr effeithir arnynt gyda sgrinio rheolaidd. Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar lawer o fywydau drwy wyliadwriaeth ac ymyriadau cynharach.

Bydd gwasanaeth cefnogaeth labordy AWMGS ar gyfer profion Syndrom Lynch yng Nghymru yn cael ei lansio ym mis Medi.