Cymru yw’r rhan gyntaf o’r DU i ddarparu sgrinio DPYD fel mater o drefn i bob claf canser sy’n cael eu trin gyda mathau penodol o gemotherapi er mwyn nodi eu risg o sgil effeithiau difrifol a helpu i atal hyn rhag digwydd.
Amcangyfrifir y gall 10% o gleifion sy’n derbyn presgripsiwn cyffuriau fluoropyrimidin, a ddefnyddir yn eang i drin canser, ddatblygu sgil effeithiau difrifol, a all fygwth eu bywyd.
Gall yr achosion hyn o wenwyno gael eu sbarduno gan amrywiadau genetig DPYD, y genyn sy’n amgodio ar gyfer ensym dadhydrogenas dihydropyrimidin (DPD) sy’n helpu i fetaboleiddio (torri’n fân) y cyffuriau cemotherapi.
Gall lefelau isel o ensym DPD – a ragwelir gan y prawf genetig – arwain at gronni’r cyffuriau cemotherapi hyn yn y corff, gan wneud yr sgil effeithiau’n fwy difrifol ac weithiau’n angheuol.
Bydd y prawf DPYD yn cael ei gynnig cyn dechrau cemotherapi gyda’r canlyniadau ar gael mewn cyn lleied â 3 diwrnod gwaith. Gydag amseroedd gweithredu cyflym o’r fath, gellir addasu triniaethau yn unol â hynny gan arwain at welliant sylweddol o ran canlyniadau i’r cleifion.
Dywedodd Genevieve Edwards, Prif Swyddog Gweithredol Bowel Cancer UK: “Gall diffyg DPD achosi adweithiau i fathau penodol o gemotherapi sy’n bygwth bywyd – ac sydd weithiau’n angheuol hyd yn oed.
“Ar y cyd â chleifion ac anwyliaid y mae DPD yn effeithio arnyn nhw, mae Bowel Cancer UK wedi bod tynnu sylw at yr effaith y mae diffyg DPD yn ei gael ar lawer o bobl.
“Rydym ni’n hynod o falch y bydd profion a allai achub bywyd ar gael i bob claf canser ar draws y wlad sy’n derbyn y math hwn o gemotherapi cyn cael triniaeth.”
Meddai Len Richards,Uwch Swyddog sy’n Gyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru, “Mae meddygaeth bersonol yn cynnig llawer o gyfleoedd ac mae’n gyffrous gweld Cymru unwaith eto’n arwain y ffordd mewn ffarmacogenomeg drwy gynnig profion DPYD i gleifion cemotherapi ledled Cymru fel mater o drefn.
“Drwy sgrinio ar gyfer amrywiadau DPYD ar yr adeg gywir ac o fewn amserlen ymarferol gallwn ddarparu gwell opsiynau triniaeth ac achub bywydau.”
Dywedodd Richard Adams, Athro ac Ymgynghorydd Canser y Coluddyn yn Felindre a Phrifysgol Caerdydd: “Fel meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rydym yn gyfrifol am wella lles ein cleifion ac osgoi gwneud niwed.
“Dros yr 20 mlynedd diwethaf rwyf i wedi gweld a gofalu am lawer o gleifion sydd wedi elwa o’r driniaeth hon ond hefyd wedi gofalu am rai sydd wedi dioddef y sgil effeithiau mwy difrifol, gyda chanlyniadau mwy eithafol.
“Mae’r prawf hwn bellach yn ein galluogi i asesu risg y sgil effeithiau hyn a newid y driniaeth mewn cleifion dethol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd. Mae sgrinio DPYD yn ein galluogi i wella ansawdd gofal cleifion canser ledled Cymru ac achub bywydau.”
Dywedodd Dyfrig Hughes, Athro Ffarmacogenomeg ym Mhrifysgol Bangor, “Mae potensial enfawr y gall profi ffarmacogentig newid y ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi er mwyn gwella canlyniadau iechyd.
“Mae’n addas iawn mai Cymru sy’n arwain y ffordd o ran darparu gwasanaeth profi DPYD cenedlaethol, oherwydd chwaraeodd y Cymro David Price Evans ran ganolog yn natblygiad ffarmacogenomeg.”
O ystyried llwyddiant diweddar y cyfnod peilot, a ddechreuodd yn gynharach eleni mewn cydweithrediad â Felindre, bydd pob bwrdd iechyd ledled Cymru yn cynnig prawf DPYD fel mater o drefn.
Hyd yma, casglwyd dros 400 o samplau a disgwylir cynnydd yn y nifer fydd yn cael y prawf.