Ar Drywydd Genomeg: Ollie Murch

Dr. Ollie Murch
Genetegydd Clinigol Ymgynghorol
Er dryswch mawr i fy nheulu, cymerais lwybr braidd yn gymhleth i feddygaeth. Yn gyntaf, fe wnes i gwblhau gradd y Gwyddorau Biofeddygol ac yna PhD. Yna, pan oeddwn yn 26 oed, dechreuais yr ysgol meddygol. Cyn i mi fod yn gymwys i wneud cais am hyfforddiant Geneteg, roeddwn yn feddyg iau mewn Pediatreg.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddilyn gyrfa ym maes genomeg?
I fod yn onest, nid oedd gyrfa fel Genetegydd Clinigol ymhell o fy meddwl tan ar ôl yr ysgol meddygol. Yn ystod fy amser fel meddyg iau, sylweddolais fod Geneteg Glinigol yn cyfuno fy nymuniad i weld cleifion â chyflyrau prin, mewn arbenigedd sy’n datblygu’n gyflym, ac sydd â chysylltiadau agos ag ymchwil glinigol.
Dywedwch ychydig wrthym am eich diwrnod gwaith arferol (ydych chi’n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol/yn annibynnol, beth yw eich hoff ran o’ch swydd?)
Fy rôl glinigol yw archwilio, diagnosio a chynghori cleifion a theuluoedd a all fod â chyflwr genetig. Gallai hyn olygu gweld claf mewn clinig neu eu trafod mewn cyfarfod amlddisgyblaethol. Rwy’n credu mai un o’r agweddau mwyaf diddorol ar feddygaeth yw datblygu profion genomeg cyflym. Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gyda chydweithwyr ar draws AWMGS, GPW a phartneriaethau eraill er mwyn helpu i sefydlu Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru (WINGS).
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun fyddai â diddordeb mewn ymuno â’ch proffesiwn?
Mae angen i chi gael gradd feddygol a chwblhau o leiaf 4 blynedd o hyfforddiant fel meddyg iau cyn dechrau’r rhaglen hyfforddiant Geneteg Glinigol. Fel fi, gallwch ddechrau meddygaeth fel myfyriwr ôl-raddedig. Felly, mae (bron) byth yn rhy hwyr!